Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (40)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60mins) Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 mins) |
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Blaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru (30 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Compact Simpson gyda Llywodraeth Leol (30 munud) Dogfennau
ategol Llywodraeth Cymru: Ôl-troed cydweithio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus (Saesneg yn unig)
|
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lles (30 munud) NDM4888 Gwenda Thomas (Castell Nedd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y darpariaethau pellach y cyfeirir atynt yn y Bil Diwygio Lles sy’n ymwneud â’r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant, yn ogystal â’r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NDM 4713, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dogfennau
Ategol I weld copi o’r Mesur Seneddol Lleoliaeth
i:
Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
|
7. Dadl ar Raglenni Ewropeaidd (60 munud NDM4897 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol a Rhaglenni Gwledig a Physgodfeydd; b) ‘cyfnod ystyried’ Llywodraeth Cymru sy’n ceisio barn rhanddeiliaid ynghylch y blaenoriaethau strategol ar gyfer y rhaglenni Ewropeaidd arfaethedig yng Nghymru (2014–2020); c) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau cysylltiadau Cymru â sefydliadau’r UE ymhellach wrth ddatblygu a gweithredu ei Rhaglenni Ewropeaidd. Mae cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd am ddarpariaethau cyffredin Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ar gael drwy’r ddolen ganlynol: Mae cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol ar gael drwy’r dolenni canlynol: - Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop: - Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Mae cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhaglenni gwledig ar gael drwy’r ddolen ganlynol: - Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Mae cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y rhaglen Pysgodfeydd ar gael drwy’r ddolen ganlynol: - Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop Mae cyfnod ystyried Llywodraeth Cymru ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt c), dileu popeth ar ôl ‘ymhellach,’ a rhoi yn ei le: ‘a'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy gyflawni Rhaglenni Ewropeaidd yn effeithlon ac yn effeithiol a sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl Cymru'. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod efallai nad yw polisi Ewropeaidd y DU er budd gorau Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r capasiti i gyflwyno sylwadau’n uniongyrchol i sefydliadau’r UE. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r newid arfaethedig i fonitro canlyniadau yn hytrach nag allbynnau a’r cyfle y gallai hyn ei greu i wella effaith y rownd nesaf o ariannu strwythurol. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl arian sy’n weddill yn y rownd ariannu bresennol yn cael ei dargedu at gynlluniau sy’n creu swyddi cynaliadwy.
|
8. Dadl ar Cymunedau yn Gyntaf (60 munud) NDM4896 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd, a fydd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi, gyda chynnwys y gymuned yn egwyddor allweddol iddi. Crynodeb o Benderfyniadau’r Gweinidog: Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y bydd rhaid i’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd gael sylfaen llywodraethu corfforaethol effeithiol er mwyn gallu creu Mudiadau Cymunedol annibynnol. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwerthusiad priodol yn rhan annatod o’r holl brosiectau Cymunedau yn Gyntaf er mwyn mesur llwyddiant ac i allu gwneud gwelliannau yn ystod oes y prosiectau. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wreiddiol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i’r casgliad ‘ni all rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ddangos gwerth am arian’. Gellir gweld adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus drwy fynd i: http://www.assemblywales.org/cr-ld7923.pdf Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi, yn ei adroddiad ‘Regenerating Communities First Neighbourhoods’, mai gwelliannau bychain yn unig a ganfuwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Gellir gweld adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yma (Saesneg yn unig) Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd yn cyflawni gwell canlyniadau na’i rhagflaenydd. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi.
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 25 Ionawr 2012